Bwrdd Cynghorwyr

Hooper Brooks

Ymgynghorydd, UDA

Drwy gydol ei yrfa mae Hooper wedi ymrwymo i hyrwyddo trefoliaeth gynaliadwy sydd wedi cwmpasu cynllunio a pholisi defnydd tir a thrafnidiaeth; cynllunio rhanbarthol; datblygu cymunedol; cadwraeth mannau agored; diogelu bioamrywiaeth a dyngarwch strategol. Ar hyn o bryd mae Hooper Brooks yn ymgynghori ar fentrau trefoliaeth gynaliadwy. Tan 2013 roedd yn Gyfarwyddwr Rhaglenni Rhyngwladol Sefydliad y Tywysog er Adeiladu Cymuned. Cynrychiolodd Sefydliad y Tywysog yn rhyngwladol ac roedd yn gyfrifol am sefydlu a datblygu portffolio o brosiectau enghreifftiol. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys: Cyfarwyddwr Rhaglen yr Amgylchedd yn Sefydliad Surdna; yn Is-lywydd Cymdeithas y Cynllun Rhanbarthol; a Chyfarwyddwr Gweithredol Comisiwn Cadwraeth Brookline, Massachusetts.